Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (116)v3 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (10 munud)
|
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog
NDM5177 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y datganiad a’r cyhoeddiad wythnosol yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM5176 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth 2013.
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
|
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5171 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi pwysigrwydd cydnabod a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig;
2.Yn credu y dylid ystyried cyflwyno System Anrhydeddau Cymreig i gydnabod a gwobrwyo’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr i fywyd Cymru; a
3.Yn croesawu’r gefnogaeth gyhoeddus eang sy’n bodoli dros ddynodi Dydd Gwyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau priodol i gyflawni’r nod hwnnw.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod y Gymraeg yn rhan annatod o amrywiaeth a hunaniaeth ddiwylliannol Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn cyrraedd ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, i wella’r defnydd o’r Gymraeg bob dydd gan genedlaethau’r dyfodol. |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5172 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.Yn nodi’r effaith negyddol y gall amseroedd ymateb gwael gan ambiwlansys ei chael ar iechyd a lles cleifion;
2.Yn nodi bod 11 o orsafoedd ambiwlans wedi cau yng Nghymru ers 2008/09;
3.Yn mynegi pryder bod gormod o gleifion yng Nghymru yn aros yn hwy na’r amseroedd targed i ambiwlans ymateb;
4.Yn gresynu bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi gostwng cyfanswm nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf;
5.Yn gresynu bod posibilrwydd y bydd yr ansicrwydd ynghylch ffurf gwasanaethau ambiwlans i’r dyfodol yn tanseilio’r broses o ad-drefnu’r GIG yng Nghymru sy’[n digwydd ar hyn o bryd.
6.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gynyddu nifer yr ambiwlansys brys sy’n gweithredu yng Nghymru;
b) sicrhau bod gan Gymru rwydwaith digonol o orsafoedd ambiwlans ledled y wlad; ac
c) rhoi sicrwydd y bydd yr adolygiad Gweinidogol o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n digwydd ar hyn o bryd yn cyflawni amseroedd ymateb gwell.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 3:
‘a bod rhai cleifion nad ydynt yn cael eu cyfrif fel galwadau brys categori A yn aros am oriau mewn poen nes bod ambiwlans ar gael’
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 6c), dileu ‘cyflawni amseroedd ymateb gwell’ a rhoi'r canlynol yn ei le:
‘:
i) cyflawni canlyniadau mesuradwy gwell i gleifion; ac
ii) archwilio pa mor briodol yw’r model annibynnol presennol’
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru )
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 6:
‘buddsoddi i uwchsgilio a hyfforddi staff presennol y gwasanaeth ambiwlans i lefel parafeddygon.’ |
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5170 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1.Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllunio’r gweithlu yn y GIG yn gadarn a digonol i gwrdd ag anghenion poblogaeth Cymru dros y tymor hir; a
2.Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r prinder meddygon drwy gyflwyno rhaglen o gymhellion ariannol i gynyddu hyfforddiant meddygon mewn ardaloedd lle y mae prinder neu lle y rhagwelir hynny.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo’r pwyntiau’n unol â hynny:
Yn nodi arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol o feddygon iau yng Nghymru a oedd yn datgelu anghysonderau mawr yn safon yr hyfforddiant meddygol mewn ysbytai yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn meddyginiaethau a thechnegau meddygol sy’n fwy modern, i wella’r hyfforddiant a’r cyfleoedd addysgol i feddygon iau yn ysbytai Cymru a denu rhagor o staff meddygol i Gymru.
Gellir gweld Arolwg y Cyngor Meddygol Cyffredinol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.gmc-uk.org/National_training_survey_2012_key_findings_report.pdf_49280407.pdf
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2 dileu ‘gyflwyno’ a rhoi ‘ystyried cyflwyno’ yn ei le
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y gallai’r pwysau ariannol sydd ar GIG Cymru ar hyn o bryd gyfrannu at sialensiau recriwtio. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5173 Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru):
Sgan mewn pryd – Sgan MRI o’r fron ar gyfer merched ifanc risg uchel |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2013